Lleoliad y cyfarfod:
Y Siambr - Y Senedd
Dyddiad y
cyfarfod:
Dydd Mercher,
22 Ionawr 2020
Amser y
cyfarfod: 13.30
------
(45 munud)
Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd ar ôl Cwestiwn 2.
(45 munud)
Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd ar ôl Cwestiwn 2.
(30 munud)
NDM7231 Lesley Griffiths (Wrecsam)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn cytuno y dylai darpariaethau yn y Bil Taliadau Uniongyrchol i Ffermwyr (Parhad Deddfwriaethol), i’r graddau y maent yn dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol Cynulliad Cenedlaethol Cymru, gael eu hystyried gan Senedd y DU.
Gosodwyd Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol yn y Swyddfa Gyflwyno ar 14 Ionawr 2020 yn unol â Rheol Sefydlog 29.2.
Bil Taliadau Uniongyrchol i Ffermwyr (Parhad Deddfwriaethol)
2019-20
Adroddiad
y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig
Adroddiad y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a
Deddfwriaethol
(0 munud)
Ni dderbynniwyd unrhyw Gwestiynau Amserol
(5 munud)
(60 munud)
NDM7211 Lynne Neagle (Torfaen)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn cydnabod bod colli rhywun i hunanladdiad yn golled unigryw o ddinistriol i deuluoedd, ffrindiau a chymunedau cyfan.
2. Yn nodi'r cymorth cyfyngedig sydd ar gael yng Nghymru i gefnogi'r rhai sy'n dioddef profedigaeth drwy hunanladdiad.
3. Yn nodi bod colli rhywun i hunanladdiad yn ffactor risg mawr ar gyfer marw drwy hunanladdiad a bod cymorth i'r rhai sydd wedi cael profedigaeth yn rhan hanfodol o atal hunanladdiad.
4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau ar frys bod cymorth ar gael i'r rhai sydd mewn galar ar ôl hunanladdiad ledled Cymru fel rhan o lwybr ôl-gyflawni cynhwysfawr i Gymru. Wrth wneud hynny, rhaid i Lywodraeth Cymru sicrhau bod gwelliannau i wasanaethau a'r llwybr newydd yn cael eu llunio ar y cyd gan y rhai sydd wedi byw drwy brofedigaeth hunanladdiad.
Cyd-gyflwynwyr
Dai
Lloyd (Gorllewin De Cymru)
David
Melding (Canol De Cymru)
Cefnogwyr
Angela
Burns (Gorllewin Caerfyrddin a De Sir
Benfro)
David
Rees (Aberafan)
Jack
Sargeant (Alun a Glannau Dyfrdwy)
Jayne
Bryant (Gorllewin Casnewydd)
Joyce
Watson (Canolbarth a Gorllewin Cymru)
Mark
Isherwood (Gogledd Cymru)
(30 munud)
NDM7233 Dai Lloyd (Gorllewin De Cymru)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon ar Iechyd meddwl yng nghyd-destun plismona a dalfa’r heddlu, a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 30 Hydref 2019.
Noder: Gosodwyd ymateb Llywodraeth Cymru i'r adroddiad yn y Swyddfa Gyflwyno ar 10 Rhagfyr 2019.
(60 munud)
NDM7237 David Rees (Aberafan)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol ar ei ymchwiliad i Newidiadau i ryddid i symud ar ôl Brexit - y goblygiadau i Gymru, a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 8 Tachwedd 2019.
Noder: Gosodwyd ymateb Llywodraeth Cymru ar 15 Ionawr 2020.
(60 munud)
NDM7234 Darren Millar (Gorllewin Clwyd)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn cydnabod pwysigrwydd darpariaeth addysg bellach o ran datblygu sgiliau gweithlu Cymru i fodloni gofynion economi Cymru ar ôl Brexit.
2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i fuddsoddi ym mhobl Cymru drwy:
a) gynyddu'r cyllid i addysg bellach;
b) ehangu nifer y prentisiaethau gradd yng Nghymru;
c) creu lwfans dysgu oedolion i helpu pobl i wella a meithrin eu sgiliau; a
d) datblygu Sefydliad Technoleg yng ngogledd Cymru.
Cyflwynwyd y gwelliannau a
ganlyn:
Gwelliant 1 -
Sian Gwenllian (Arfon)
Ym mhwynt 2, mewnosod fel is-bwynt newydd ar ôl is-bwynt (b) ac ail-rifo’n unol â hynny:
‘cynyddu rhwydweithiau cymorth i brentisiaid drwy drefniadau partneriaeth ffurfiol gyda cholegau addysg bellach;’
Gwelliant 2 - Rebecca Evans (Gwyr)
Ym mhwynt 2, dileu is-bwynt 2(d) a rhoi yn ei le:
'gweithio gyda sefydliadau addysg bellach, prifysgolion a chyflogwyr i sicrhau bod y ddarpariaeth yn diwallu anghenion technoleg esblygol yr economi.'
Gwelliant 3 - Sian Gwenllian (Arfon)
Ychwanegu fel pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gydnabod pwysigrwydd Erasmus+ o ran denu pobl i Gymru i ddiwallu anghenion economi Cymru drwy’r sectorau addysg bellach ac addysg uwch, ac ymrwymo i wrthwynebu unrhyw ymgais gan Lywodraeth y DU i adael y rhaglen yn 2021.
Gwelliant 4 - Sian Gwenllian (Arfon)
Ychwanegu fel pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i greu gwell amodau ar gyfer datblygu sgiliau gweithlu Cymru drwy gynyddu isafswm cyflog y flwyddyn gyntaf ar gyfer prentis i’r isafswm cyflog cenedlaethol safonol, yn unol â grŵp oedran y person.
(30 munud)
NDM7235 Hefin David (Caerffili)
Yr achos dros drefi angor: Eu rôl o ran adeiladu economi decach.
Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Cynulliad am 13.30, Dydd Mawrth, 28 Ionawr 2020